|
Fe sefydlwyd Co-Options Community Co-operative Limited ym 1989 er mwyn datblygu cysylltiad rhwng gyflogaeth, busnesau a phobl
sydd ag anabledd dysgu.
Cred gadarn y bydd pobl sydd ag anabledd dysgu yn cael lles o amgylcheddau gwaith addas, a gall y rhain gynnig cefnogaeth
a chyfleoedd ar gyfer cynnydd a datblygiad personol, sydd yn gymhelliad tu ôl i Co-Options. Yr un mor bwysig yw y ffaith
ein bod yn arddangos y cyfraniad gwerthfawr gall pobl sydd ag anabledd dysgu ei wneud fel rhan o'u cymunedau.
Dros y blynyddoedd mae twf Co-Options wedi bod yn gyson. Y mae tair prif edau i'n gwaith:
1) Datblygu Busnesau: Yr ydym wedi creu nifer o fusnesau bach o natur amrywiol a gwahanol.
2) Gwasanaethau Cyflogaeth â Chefnogaeth: Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu Hyfforddwyr Swydd sy'n rhoi cefnogaeth 1:1
i bobl sydd ag anabledd dysgu i mewn i amrywiaeth o leoliadau gwaith yn y cymuned.
3) Gwasanaethau Gofal Dydd Bywiog: Bydd y gwasanaethau hyn yn darparu rhywbeth gwahanol i wasanaethau gofal dydd traddodiadol.
Gweler ein byrddau gwybodaeth am fanylion pellach os gwelwch yn dda.
Diolch am eich diddordeb yn ein gwaith.
Datganiad Cenhadaeth Co-Options:
Yr ydym yn creu busnesau ac yn lleoli cyfleoedd cyflogaeth ac hyfforddiant sy'n gynnwys pobl ag anabledd dysgu. Seiliwn
y gwasanaethau hyn ar anghenion unigol y bobl a gefnogwn.
|